Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd Cwestiynau 1-2, 4 – 9 a 11 – 13. Ni ofynnwyd Cwestiwn 3. Trosglwyddwyd Cwestiwn 10 i’w ateb yn ysgrifenedig.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dechreuodd yr eitem am 14:16
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd Cwestiwn 2 i’w ateb yn ysgrifenedig.
Pwynt o Drefn
Cododd Mick Antoniw bwynt o drefn yn ymwneud ag Eitem 6 NDM 5054 ar agenda heddiw ac a oedd y cynnig yn ymyrryd â’r broses led-farnwrol. Gofynnodd am benderfyniad ynghylch pam nad oedd y Llywydd wedi defnyddio ei disgresiwn o dan baragraff 3.12 o'r Egwyddorion a'r Arferion ar gyfer Cyflwyno a Gosod busnes y Cynulliad i wrthod derbyn cynnig os yw'n bwrw amheuaeth ar gywirdeb y modd y cynhelir busnes y Cynulliad.
3. Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44
Dechreuodd yr eitem am 15:02
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Cafodd y gwelliannau eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad
1, 5
2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad
9
3.Penodi Swyddog Cyfrifol
6
4. Ystyr y Ddarpariaeth
2
5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cynllun
10, 11, 12
6.Gwasanaethau a ddarperir o dan y Cynllun
7, 8
7. Ymgynghori ar y Cynllun
3, 4
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
1 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
48 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Derbyniwydgwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 12.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
4. Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.47
Dechreuodd yr eitem am 16:01
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16:11
NDM5053 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Cysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2012.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 17:09
NDM5054 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r pryderon a fynegwyd ledled Cymru ynghylch cynigion byrddau iechyd lleol ar gyfer dyfodol gofal newyddenedigol; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau y bydd gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn dal ar gael yng Ngogledd Cymru;
b) sicrhau na fydd dim o’r gwasanaethau gofal newyddenedigol presennol yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hisraddio; a
c) sicrhau bod capasiti gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn Ne Cymru yn gallu ateb y gofyn.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:
sicrhau bod strategaeth ar waith er mwyn gweld gwasanaethau newyddenedigol yn gwella yng Ngorllewin Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5054 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r pryderon a fynegwyd ledled Cymru ynghylch cynigion byrddau iechyd lleol ar gyfer dyfodol gofal newyddenedigol; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau y bydd gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn dal ar gael yng Ngogledd Cymru;
b) sicrhau na fydd dim o’r gwasanaethau gofal newyddenedigol presennol yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hisraddio; a
c) sicrhau bod capasiti gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn Ne Cymru yn gallu ateb y gofyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
0 |
27 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y cyfnod pleidleisio am 18:05
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18:06
NDM5052 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cefnogi buddsoddiad yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod
Cefnogi cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Powys i fuddsoddi yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:25
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012